P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Savage ar ôl 30 o lofnodion ar-lein a dros 400 o lofnodion papur. Casglodd deiseb gysylltiedig 497 o lofnodion ar wefan e-ddeiseb amgen.

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â chymryd camau pellach o ran NVZ yng Nghymru. Byddai cyflwyno’r gyfarwyddeb hon yn rhoi pwysau aruthrol ar ddiwydiant llaeth sydd eisoes yn crebachu, ynghyd â chymunedau gwledig yn ehangach. Ni yw asgwrn cefn economi Cymru, Dim Ffermwyr, Dim Bwyd.

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/02/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o gofio cefnogaeth y deisebydd ar gyfer dull Ysgrifennydd y Cabinet, cytunodd i gau'r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, roeddent yn dymuno diolch i'r deisebydd am ddod â'r ddeiseb ymlaen a'i chyfraniad at eu hystyriaeth o'r mater.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Preseli Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/12/2016