P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas

P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Lewis ar ôl casglu 15 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

​Bu cyfyngiadau cyflymder yn nhwnelau Bryn-glas ac o'u cwmpas ar gerbytffyrdd tua'r dwyrain a thua'r gorllewin ar yr M4 ers 2011, ac maent yn achosi diflastod i fodurwyr di-rif bob dydd. Cynigir y dylid tynnu'r holl gyfyngiadau cyflymder yn yr ardal hon a dychwelyd at y terfyn cyflymder cenedlaethol i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin.

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ac, wrth wneud hynny, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am ganfyddiadau'r adolygiad arfaethedig ar ôl i 12 mis o ddata gael eu casglu o orfodi'r Terfyn Cyflymder Newidiol.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Caerffili

·         Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2016