Ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati

Ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu  ymchwiliad i Ariannu Addysg Cerddoriaeth a gwella mynediad ati. Roedd yr ymchwiliad yn deillio o arolwg a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2016, pan ofynnwyd i’r cyhoedd ddewis pa bynciau y dylai’r Pwyllgor edrych arnynt.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i bobl ymateb ar y materion a ganlyn:

 

·      Mynediad at wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc;

·      Y sefyllfa bresennol o ran yr ensembles cenedlaethol a rhanbarthol;

·      Yr hyn a gyflawnwyd o ran gweithredu argymhellion adolygiadau Llywodraeth Cymru o wasanaethau cerddoriaeth ac ensembles y celfyddydau cenedlaethol;

·      Effaith penderfyniadau cyllido ar ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol a materion sy’n ymwneud â’r gweithlu addysg cerddoriaeth; ac  

·      Edrych yn fanwl ar ddarpariaeth ehangach gwasanaethau addysg cerddoriaeth drwy’r trydydd sector a’r sector masnachol.

 

Bu’r Pwyllgor yn cynnal sgwrs â’r rhai a oedd â diddordeb yn eu cyfarfodydd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2017.

 

Adroddiad  

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mehefin 2018. Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ym mis Hydref 2018.

 

Ymateb i’r adroddiad

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Gorffennaf 2018.

 

Math o fusnes:

Statws: Ymchwiliad yn mynd rhagddo

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2017

Dogfennau