Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Inquiry_Stage_05.jpg

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* ymchwiliad i waith rhyng-sefydliadol er mwyn:

  • Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
  • Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladau arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
  • Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â dinasyddion.

 

Yn ystod yr ymchwiliad, penderfynodd y Pwyllgor newid enw’r ymchwiliad o “Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a’r sefydliadau datganoledig” oherwydd natur newidiol ei waith a phenderfyniad y DU i ymadael â’r UE.

 

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddwy ffrwd:

 

Ffrwd I: Materion cyfansoddiadol

Adolygu sut y mae cysylltiadau rhyng-sefydliadol wedi dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1998. Bydd hyn yn ystyried y canlynol:

  • Sut y mae dulliau rhyng-lywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhyng-lywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae'r cysylltiadau hyn wedi effeithio ar y setliad datganoli.
  • Sut y mae cysylltiadau rhyng-seneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.

 

Ffrwd II: Materion polisi

Drwy adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar draws y DU er mwyn archwilio ymhellach o fewn y cyd-destun Cymreig:

  • Natur y cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut  y mae'r cysylltiadau hyn yn gweithredu a sut y gellir eu gwella.
  • Gwella cyfleoedd i lywodraethau a seneddau ddysgu am bolisïau ar y cyd.
  • Arfer gorau o ran cysylltiadau rhyng-sefydliadol ar draws y DU y gellid ei ddefnyddio yn y cyd-destun Cymreig.
  • Natur y cysylltiad rhwng deddfwrfa Cymru a deddfwrfa'r DU a chanfod cyfleoedd i seneddau weithio'n fwy effeithiol â'i gilydd.
  • Cynnwys unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chysylltiadau rhyng-sefydliadol, gan gynnwys y goblygiadau perthnasol sy'n deillio o'r ffaith bod y DU yn gadael yr UE.

 

Casglu tystiolaeth

Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i geisio eich barn am y mater hwn. Y dyddiad olaf ar gyfer ymateb yw 5 Mehefin 2017.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Gadeirydd pob un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol i ofyn eu barn ynglŷn â sut i wella trefniadau gweithio rhyngseneddol.

 

Hynt yr ymchwiliad

Mae’r tabl canlynol yn nodi dyddiadau a chynnwys y sesiynau tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad:

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad

1. Y Gwir Anrh. Arglwydd Murphy o Dorfaen

6 Chwefror 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Syr Paul Silk

6 Mawrth 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Y Farwnes Randerson

13 Mawrth 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4. Y Gwir Anh. Elfyn Llwyd

13 Mawrth 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5. Y Gwir Anh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

20 March 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

6. Ieuan Wyn Jones

27 March 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 6

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 6 ar Senedd TV

7. Y Gwir Anrh.  Arglwydd Hain

8 Mai 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 7

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 7 ar Senedd TV

8. Y Gwir Anh, Rhodri Morgan

8 Mai 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 8

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 8 ar Senedd TV

9. Syr Derek Jones

15 Mai 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 9

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 9 ar Senedd TV

10. Yr Athro Paul Cairney

22 Mai 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 10

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 10 ar Senedd TV

Sesiwn Rhanddeiliaid

19 Mehefin 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Rhanddeiliaid

Gwylio Sesiwn Rhanddeiliaid ar Senedd TV

11. Elin Jones AC, Llywydd

3 Gorffennaf 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 11

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 11 ar Senedd TV

12. Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

25 Medi 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 12

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 12 ar Senedd TV

13. Philip Rycroft CB, Ysgrifennydd Parhaol, Yr Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd

25 Medi 2017

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 13

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 13 ar Senedd TV

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 1012KB) ym mis Tachwedd 2018. Trafodwyd yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2018.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/12/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau