P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON Wales ar ôl casglu 2,192 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

a. Gynyddu cyfanswm cyllid (refeniw) allanol i awdurdodau lleol i o leiaf y lefelau hynny a oedd yn berthnasol yn 2013/14 mewn termau real.

b. Cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n darparu ‘pŵer cymhwysedd cyffredinol’ i awdurdodau lleol yng Nghymru.

c. Annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau presennol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i rannau eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac i ymchwilio a masnachu drwy ddatblygu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau y gellir eu cyflenwi i’r cyhoedd yn gyffredinol ac i’r sector preifat yn fwy cyffredinol.

d. Gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ryddhau ffrydiau refeniw presennol drwy, er enghraifft, ailariannu neu ddisodli cynlluniau PFI ar d.elerau mwy ffafriol, gan ddefnyddio’r cyfleoedd a gynigir gan gyfraddau llog hanesyddol isel.

e. Ymgymryd â chefnogi gwaith y Comisiwn Annibynnol Materion Ariannol Llywodraeth Leol Cymru

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gweld gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol yng Nghymru, ac rydym o’r farn, drwy weithredu’r camau hyn y gall Llywodraeth Cymru helpu i atal difrod pellach i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn lleol; er, rydym yn cydnabod fod y camau hyn yn ddim ond rhan o’r ateb, ac y bydd angen rhoi terfyn ar raglen galedi Llywodraeth San Steffan i sicrhau y gall gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu mewn ffordd gynaliadwy a digonol yn y dyfodol.

Gwybodaeth ychwanegol

UNSAIN Cymru yw Undeb Llafur mwyaf y sector cyhoeddus, sy’n cynrychioli oddeutu 100,000 o weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae UNSAIN Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros ddiweddu caledi a thros Ariannu Teg i Gymru gan Lywodraeth San Steffan, hefyd yn ymgyrchu dros ddiogelu gwariant ar lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y caiff gwasanaethau ein cynghorau, sy’n sicrhau bod ein cymunedau yn iach ac yn addysgedig eu diogelu

 

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod gan y deisebwyr ar hyn o bryd gyfle i roi eu barn o ran datblygu cynigion ar ddiwygio llywodraeth leol, ac nad oes fawr o werth pellach y gall y Pwyllgor Deisebau gynnig ochr yn ochr â'r broses honno.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2016