P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn.

P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn.

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Geraint Williams, ar ôl casglu 130 llofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i fuddsoddi yn un o'r prif ffyrdd i'r brifddinas drwy ehangu'r ffordd ddeuol bresennol i fod â thair lôn o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton.

 

Ceir llawer iawn o dagfeydd ar y ffordd bresennol yn y bore ac yn yr hwyr yn ystod yr wythnos, gan achosi trafferth i fodurwyr sy'n teithio rhwng y Cymoedd a'r ddinas. Credir bod hon yn ffactor allweddol sy'n cyfyngu ar ffyniant pobl a busnesau Caerdydd, yn ogystal â Chymoedd y Rhondda, Rhymni, Merthyr a Chaerffili, sy'n dibynnu ar gysylltiadau ffordd da â'r M4 a'r ddinas.

 

Mae'r tagfeydd yn arbennig o wael ar y ffordd tua'r de o Bontypridd oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys traffig yn ciwio i ymuno â'r M4 yng nghyfnewidfa Coryton a'r nifer fawr o geir sy'n ymuno â'r traffig o Ferthyr ac Aberdâr ym Mhontypridd, Upper Boat, Nantgarw a Thongwynlais. Nid yw'r ffordd yn gallu ymdopi â'r holl draffig sy'n dod o Gymoedd y Rhondda a Chaerffili.

 

O gyfnewidfa Coryton tua'r gogledd, mae'r ffordd ychydig yn well. Fodd bynnag, mae'r holl draffig sy'n ymuno â'r ffordd o'r M4 yn achosi dryswch ac oedi i ddefnyddwyr y ffyrdd yng nghyfnewidfa Coryton. Mae'r ffordd wedyn yn parhau i wynebu tagfeydd a'r traffig yn parhau i symud yn araf hyd nes iddi gyrraedd Pontypridd, pan mae llawer o draffig wedi gadael y ffordd ar hyd ffyrdd ymuno ac ymadael amrywiol. Pan fydd tagfeydd ar y ffyrdd ymuno ac ymadael eu hunain (fel yn Nantgarw ac Upper Boat), mae llif y traffig yn eithriadol o araf.

 

Er nad oes unrhyw ddata ar gael ar hyn o bryd, gellir damcaniaethu y byddai'r gymhareb cost a budd ariannol a fyddai'n deillio o'r buddsoddiad hwn mewn seilwaith yn y rhanbarth yn gadarnhaol, ac rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth o leiaf yn ystyried y cynnig hwn.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/06/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan ei bod hi'n anodd ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd. Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/12/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Merthyr Tudful a Rhymni
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2016