Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Economi Ddigidol
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Economi Ddigidol
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o
fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Yn gryno, mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer
awdurdodau cyhoeddus penodedig, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, i rannu data at
ddibenion gwella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, yn ddarostyngedig i
amodau penodol. Mae hyn yn cynnwys rhannu data i gefnogi targedu cynlluniau
cymorth tlodi tanwydd.
Ar 24 Tachwedd 2016, gosododd Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a Llywodraeth Leol Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr
Economi Ddigidol.
Cymeradwywyd y
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Economi Ddigidol yn y Cyfarfod
Llawn ar 14
Mawrth 2017.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2016
Dogfennau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Economi Ddigidol - 24 Tachwedd 2016 (PDF, 103KB)
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Economi Ddigidol - 29 Tachwedd 2016 (PDF, 52KB)
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - 9 Ionawr 2017 (PDF, 212KB) PDF 256 KB
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Economi Ddigidol - 13 Ionawr 2017 (PDF, 117KB)