NDM6176 - Dadl Plaid Cymru
NDM6176 - Dadl Plaid Cymru
NDM6176 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynlluniau
llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â
chanol trefi ledled Cymru.
2. Yn nodi, o ganlyniad
i gytundeb cyllideb Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, y caiff cronfa ei sefydlu
a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio ceir am ddim
yng nghanol trefi ledled Cymru, gan roi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.
3. Yn gresynu fod y
system ardrethi busnes bresennol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach sydd
ag eiddo yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU.
4. Yn gresynu at effaith
y gwaith diweddar o ailbrisio ardrethi busnes ar rai busnesau bach yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) ehangu'r cymorth pontio
sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardrethi annomestig 2017 yn
effeithio arnynt;
b) archwilio'r
posibilrwydd o ddynodi Cymru gyfan yn ardal fenter er mwyn rhoi'r math o
fantais gystadleuol i Gymru sydd ei hangen i gau'r bwlch economaidd rhwng Cymru
a gweddill y DU;
c) sicrhau y rhoddir y
pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol;
d) pennu targed i godi
lefelau presennol caffael o 55 y cant i o leiaf 75 y cant o wariant sector
cyhoeddus Cymru yng Nghymru; ac
e) cyflwyno ymgyrch
'prynu'n lleol' wedi'i hanelu at ddefnyddwyr a phrif brynwyr yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2016
Angen Penderfyniad: 30 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS