P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf

P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf

Wedi'i gwblhau

 

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whitehead-Ross Education and Cangen Cyngor Bwrdeistref Sirol UNSAIN Castell Nedd Port Talbot ar ôl casglu 24 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

 Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllideb y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn amddiffyn y teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys yn ein hardal ni, Castell-nedd Port Talbot.

Caiff y rhaglen arloesi, Teuluoedd yn Gyntaf, ei hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo i ddatblygu systemau a chymorth amlasiantaeth effeithiol o fewn awdurdodau lleol, gyda phwyslais clir ar ymyrraeth gynnar ac atal niwed i deuluoedd, yn enwedig i'r rheini sy'n dlawd.

Ddiwedd mis Awst, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau lythyr at sylw awdurdodau lleol ynghylch dyfodol Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2017. Yn ei lythyr, amlinellodd y blaenoriaethau wrth fynd i'r afael â bylchau o ran darpariaeth gwasanaethau ar gyfer rhieni a phobl ifanc yn y dyfodol, gan gysylltu gwaith y rhaglen â'r dull o atal profiadau niweidiol i blant.

Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ffurfiol ar ddyfodol y rhaglen yn yr hydref, ac ni cheir gwybod sut y caiff y gyllideb ei dyrannu ar gyfer pob awdurdod lleol tan ddiwedd Rhagfyr 2016. Â'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben ym mis Mawrth 2017, dyma gryfhau'r achos i'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gael ei diogelu.

Yn y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu'r rhaglen, defnyddiwyd y cynllun 'Teulu'n Flaenaf' yng Nghastell-nedd Port Talbot i gynorthwyo bron i 100 o deuluoedd i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau a mynd i'r afael â materion cyn iddi fynd yn rhy hwyr, trwy ymyrraeth gynnar ac atal niwed. Mae'r Llywodraeth yn amcangyfrif y gall un teulu mewn trafferthion gostio oddeutu £75,000 y flwyddyn i'r trethdalwr, felly gellir cyfrifo gwerth o £3.32 am bob £1 a wariwyd gan arbed dros £7.3 miliwn i'r economi.

Cwtogodd Llywodraeth Cymru'r grant ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot o £260,000 ar gyfer 2016/17, â grant o £1,964,194. Defnyddiodd 2,586 o unigolion y gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2015-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/01/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail y bydd y gyllideb ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chynnal ar gyfer 2017-2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

        Aberafan

        Gorllewin De Cymru

 

Further information

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2016