Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

NDM6139 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o "Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2016