Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Bydd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn craffu yn gyfnodol ar waith
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy'n gyfrifol am y
canlynol:
- hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru;
- herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru;
- annog arfer gorau yn y ffordd y caiff pobl hŷn eu trin yng
Nghymru; ac
- adolygu’r cyfreithiau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng
Nghymru.
Nodir pwerau statudol a rôl y Comisiynydd yn Neddf Comisiynydd
Pobl Hŷn (Cymru) 2006 ac yn Rheoliadau
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.
Mae rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd ar gael ar wefan y Comisiynydd.
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2017