P-05-724 Hawliau i ofal iechyd sylfaenol yn Gymraeg
P-05-724 Hawliau i ofal iechyd sylfaenol yn Gymraeg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cymdeithas yr Iaith ar ôl casglu 766
llofnod bapur.
Geiriad y ddeiseb
Galwn ar Lywodraeth Cymru i ailedrych
ar y Safonau arfaethedig ym maes iechyd i gynnwys darparwyr gwasanaethau iechyd
sylfaenol, megis meddygfeydd a fferyllfeydd, er mwyn sicrhau bod gan bobl
hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/01/2020 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a
chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos nad oes llawer mwy y
gall y ddeiseb ei gyflawni yn sgil y ffaith bod y Rheoliadau wedi’u
gweithredu’n ddiweddar a’r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog mai pwrpas yr
adolygiad fydd ceisio canfod ffyrdd i’w cryfhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/12/2016.
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2016