P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill.

P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill.

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Waters of Wales – WoW ar ôl casglu 3,045 llofnod ar lein a 433 llofnod bapur – cyfanswm o 3,478.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu Bil i sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill. Dylai'r Bil hwn ymgorffori hawliau a chyfrifoldebau mynediad ar gyfer y cyhoedd yn yr un ffordd ag y mae Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003 yn annog defnydd cydweithredol o'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden iach ac isel eu heffaith. Rhaid i'r Bil ymgorffori hawliau mordwyo cyhoeddus ar gyfer dŵr mewndirol, a chaniatáu mynediad at ddŵr ac ar hyd dŵr. Rhaid iddo gael gwared ar y diffyg eglurder cyfreithiol a'r cyfyngiadau sy'n gweithredu fel rhwystr i chwaraeon a gweithgareddau hamdden, yn ogystal â'r gwaith o hyrwyddo Cymru fel lle sy'n croesawu gweithgareddau hamdden iach, twristiaeth a gweithgareddau anturus ar bob lefel o gyfranogiad a mwynhad.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Bwriad Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (i) oedd darparu mynediad cyhoeddus mawr ei angen i gefn gwlad. Cyn gweithredu'r ddeddf hon, fodd bynnag, roedd hi eisoes wedi colli llawer o'r manteision cyhoeddus a fwriadwyd. Er enghraifft, roedd yn ceisio gwahardd y cyhoedd o ddŵr mewndirol. Roedd y ddeddf yn gymhleth, yn ddrud, ac yn methu â darparu'r mynediad i dir a dŵr sydd ei angen ar y cyhoedd yn gyffredinol. Roedd ymarfer mapio'r ddeddf ar ei phen ei hun wedi costio bron i £8 miliwn i fynd i'r afael ag anghenion y ganran fach o'r cyhoedd sydd am gael mynediad i ardaloedd yr ucheldir. Cymerodd Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros y mater hwn yn 2009 (ii), ac eto, ar ddiwedd 2015, nid yw mynediad i dir at ddibenion hamdden yn diwallu anghenion y cyhoedd yn gyffredinol, ac nid oes cynnydd wedi'i wneud o ran y mater o fynediad i ddŵr. I'r gwrthwyneb, mewn rhai achosion, mae mentrau costus sydd wedi'u cymeradwyo a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at lai o fynediad i ddŵr mewndirol. Mae dwy Lywodraeth Cymru yn olynol wedi cydnabod yr angen am newid, ond maent wedi dewis proses sy'n cynnal y sefyllfa bresennol. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cyfaddef bod y broses 3-blynedd, sydd wedi costio o leiaf £2.4 miliwn, wedi methu â chyrraedd y nod. Yn hytrach, mae'r broses hon yn amlwg wedi lleihau cyfleoedd—er enghraifft, o ran mynediad i ddŵr mewndirol. Rhoddodd yr Alban ddatrysiad parhaol ar waith drwy ddeddfwriaeth diwygio tir (iv) am gost ddeddfwriaethol o £200,000, gyda chost derfynol o tua £3 miliwn, gan gynnwys cost ymgyrch deledu ac addysg gyhoeddus (v).

 

i)        Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/37/contents/enacted

ii)       (Adroddiad Ymchwiliad Byr y Pwyllgor Deisebau ar fynediad ar hyd dŵr mewndirol, Mawrth 2009 https://dl.dropboxusercontent.com/u/62377602/Welsh_Government_Letter_RefTOJG0126513_16Oct2013.pdf

iii)      ( Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003 http://www.legislation.gov.uk/asp/2003/2/contents/enacted

iv)      BIL DIWYGIO TIR (YR ALBAN) - NODIADAU ESBONIADOL (A DOGFENNAU ATODOL ERAILL) http://www.scottish.parliament.uk/S1_Bills/Land%20Reform%20%28Scotland%29%20Bill/b44s

 

Trosglwyddo deiseb yn y Senedd

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r deisebydd. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes llawer pellach y gellir ei gyflawni ar hyn o bryd yng ngoleuni natur faith y dadleuon sy'n ymwneud â mynediad at ddŵr mewndirol, a'r dull gweithredu a gynigiwyd gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/11/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Mynwy
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2016