NDM6128 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6128 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6128
 
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.

2. Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru;

(b) gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig;

(c) sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes;

(d) sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a'u gweithredu; ac

(e) gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol gael gafael arnynt.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2016

Angen Penderfyniad: 2 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Neil Hamilton AS