NDM6126 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6126 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6126 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod
Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu â chyflawni ei huchelgais yn rhaglen
lywodraethu 2011 o sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn
gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.
2. Yn cydnabod
mai gan Cymru y mae'r cyfartaledd uchaf o bobl ym Mhrydain nad ydynt yn
defnyddio'r rhyngrwyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo
llythrennedd ddigidol a gosod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer defnyddio band
eang.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
(a) gweithio
gydag Ofcom, Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau i sicrhau mynediad
cyffredinol i fand eang cyflym a signalau ffonau symudol;
(b) diwygio'r
system gynllunio i hyrwyddo buddsoddi mewn seilwaith telathrebu a defnyddio
rhwydwaith;
(c) ystyried y
cynnydd a wnaeth Llywodraeth yr Alban drwy ei chynllun gweithredu ffonau
symudol a chyflwyno cynllun i ddarparu signalau ffonau symudol y genhedlaeth
nesaf mewn ardaloedd lle y methodd y farchnad; a
(d) darparu
amserlen ar gyfer ei hymrwymiad i gaffael contract i ymestyn myneidad i fand
eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2016
Angen Penderfyniad: 2 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS