Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru

Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.

 

Rhwng mis Awst a mis Hydref 2016, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, i gyflawni ei huchelgais ar gyfer miliwn o siaradwyr Gymraeg erbyn 2050.

 

Galwodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig, ar wahân ond ar yr un pryd â Llywodraeth Cymru. Nod yr ymchwiliad oedd ceisio llywio strategaeth newydd y Llywodraeth a dylanwadu arni yn ystod cyfnod ffurfiannol. 

 

Gofynodd y Pwyllgor i bobl ysgrifennu atynt gyda’u barn ynghylch gwella gwaith cynllunio gweithlu a chymorth i ymarferwyr ar gyfer pob cyfnod addysg a sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu fel pwnc. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i rai oedd â diddordeb am eu sylwadau yn eu cyfarfodydd rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Ionawr 2017.  

 

Adroddiad   

Cyhoeddwyd adroddiad ar ganfyddiadau’r ymchwiliad ‘Gwireddu’r Uchelgais: Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru’ (PDF; 949KB) ym mis Mai 2017.

 

Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Hydref 2017.  

 

Ymateb i'r adroddiad 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Gorffennaf 2017 (PDF; 205KB).

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau