NDM6121 - Dadl Plaid Cymru

NDM6121 - Dadl Plaid Cymru

NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.

2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac anghyson", ac wedi'i nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;

(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;

(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a

(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.

'Adroddiad Comisiwn Williams'

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/10/2016

Angen Penderfyniad: 19 Hyd 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS