P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang opteg Ffibr yn y Pentref.
P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang opteg Ffibr yn y Pentref.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cllr James Campell ar ôl
casglu 166 llofnod bapur.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, trigolion Penderyn, wedi llofnodi’r ddeiseb
isod i fynegi’n dymuniad i gael band eang opteg ffibr yn ein pentref. Byddai’r
gwasanaeth hwn yn trawsnewid ein cymuned, yn ein helpu ni fel defnyddwyr i
ddefnyddio’r rhyngrwyd yn gymdeithasol yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio yn y pentref
naill ai mewn busnesau lleol neu sy’n
gweithio gartref.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/06/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Mae gwybodaeth bellach ar gael o dan y tab 'Cyfarfodydd'. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod cyflwyno band eang ffibr opteg i fod
i gael ei gwblhau'n fuan, ac y gellir codi materion penodol gyda Llywodraeth
Cymru gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarparwyd gan y Gweinidog.Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/11/2016.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2016