Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

BillStageAct

 

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

Gwybodaeth am y Bil

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • Ailddatgan cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig a sylweddol gaeedig, a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i fangreoedd neu gerbydau ychwanegol;
  • Gosod cyfyngiadau ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus;
  • Darparu ar gyfer creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
  • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;
  • Gwahardd rhoi tybaco a/neu gynhyrchion nicotin i unigolyn o dan 18 oed;
  • Darparu ar gyfer creu cynllun trwyddedu mandadol i ymarferwyr a busnesau sy’n cynnal “triniaethau arbennig” sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio;
  • Cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff unigolyn o dan 16 oed;
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu bod rhaid i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd mewn amgylchiadau penodedig;
  • Newid y trefniadau ar gyfer penderfynu ar geisiadau i fod ar restr fferyllol byrddau iechyd, i system sy’n seiliedig ar anghenion fferyllol cymunedau lleol;
  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaeth leol i gynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau ar gyfer defnyddio cyfleusterau toiledau a fydd ar gael i’r cyhoedd; a
  • Galluogi ‘awdurdod bwyd’ dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 i gadw derbynebau cosb benodedig yn deillio o droseddau dan y Ddeddf honno, er mwyn gorfodi’r cynllun sgorio hylendid bwyd.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

 

Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 3 Gorffennaf 2017.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil:

7 Tachwedd 2016

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (514KB)

 

Memorandwm Esboniadol (3MB)

 

Datganiad y Llywydd: 7 Tachwedd 2016 (153KB)

 

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): 7 Tachwedd 2016 (185KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 7 Tachwedd 2016 (53KB)

 

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil (730KB)

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): 8 Tachwedd 2016

 

Llythyr at y Prif Weinidog gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 6 Tachwedd 2016 (326KB)

 

Geirfa’r Gyfraith (144KB)

 

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (Saesneg yn unig) (dolen allanol)

 

Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant (Saesneg yn unig) (dolen allanol)

 

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg (dolen allanol)

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ystyriaeth y Pwyllgorau

 

Ystyriodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon nowy Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

9 Tachwedd 2016

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1

(Preifat)

(Preifat)

1 Rhagfyr 2016

y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1 Rhagfyr 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 1 Rhagfyr

7 Rhagfyr 2016

Sesiynau Tystiolaeth

7 Rhagfyr 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 7 Rhagfyr

15 Rhagfyr 2016

Sesiynau Tystiolaeth

15 Rhagfyr 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 15 Rhagfyr

11 Ionawr 2017

y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sesiynau Tystiolaeth

11 Ionawr 2017 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 11 Ionawr

19 Ionawr 2017

Sesiynau Tystiolaeth

19 Ionawr 2017 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 19 Ionawr

2 Chwefror 2017

Trafod yr adroddiad drafft

(Preifat)

(Preifat)

 

 

 

 

Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar

 

Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Gohebiaeth Weinidogol

Llythyr at Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 12 Ionawr 2017 (PDF 116KB)

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 18 Ionawr 2017 (PDF 475KB)

Llythyr at Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 24 Ionawr 2017 (PDF 85KB)

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 31 Ionawr 2017 (PDF 159KB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar 10 Chwefror 2017. (PDF 1MB)

Ymateb Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 10 Mawrth 2017 (PDF 185KB)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Tachwedd 2016

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

21 Tachwedd 2016 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 21 Tachwedd

30 Ionawr 2017

Trafod yr adroddiad drafft

(Preifat)

(Preifat)

 

Gohebiaeth Weinidogol

Llythyr at Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 13 Rhagfyr 2016 (PDF 138KB)

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 12 Ionawr 2017 (PDF 218KB)

 

Adroddiad

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar y Bil (PDF 714KB) ar 10 Ionawr 2017.

Ymateb Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 10 Mawrth 2017 (PDF 154KB)

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog (PDF, 207KB) ynghylch yr ymateb i’r adroddiad ar 29 Mawrth 2017. Ymatebodd y Gweinidog ar 18 Ebrill 2017 (PDF, ___KB).

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

7 Rhagfyr 2016

Goblygiadau ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

(Preifat)

(Preifat)

19 Ionawr 2017

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

19 Ionawr 2017 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 19 Ionawr

2 Chwefror 2017

Trafod yr adroddiad drafft

(Preifat)

(Preifat)

 

Adroddiad

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 10 Chwefror 2017. (PDF 925KB)

Ymateb Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid - 10 Mawrth 2017 (PDF 168KB)

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2017.

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2017.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

 

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 1 Mawrth 2017.

 

Cytunodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 16 Chwefror 2017 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2:

Adran 3 i 26, Adran 2, Adran 27 i 52, Adran 54 i 91, Adran 53, Adran 92 i 124, Atodlen 1 i Atodlen 4, Adran 1, Teitl Hir.

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Mawrth 2017.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 6 Mawrth 2017 fersiwn 2 (PDF 64KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 6 Mawrth 2017 (PDF 49KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 10 Mawrth 2017 (PDF 79KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 13 Mawrth 2017 (PDF 99KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 13 Mawrth 2017 (PDF 358KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 15 Mawrth 2017 fersiwn 2 (PDF 118KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 16 Mawrth 2017 fersiwn 2 (PDF 92KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 23 Mawrth 2017 (PDF 192KB)

Grwpio Gwelliannau – 23 Mawrth 2017 (PDF 71KB)

 

Gohebiaeth Weinidogol

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 6 Mawrth 2017 (PDF 155KB)

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (PDF 526KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ochr dde’r dudalen.)

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 2MB)

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF 137KB)

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau


Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 24 Mawrth 2017.

 

Ar ddydd Mawrth 2 Mai 2017, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod 3:

Adran 3 i 26, Adran 2, Adran 27 i 52, Adran 54 i 91, Adran 53, Adran 92 i 124, Atodlen 1 i Atodlen 4, Adran 1, Teitl Hir.

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Mai 2017.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 27 Ebrill 2017 (PDF 95KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 27 Ebrill 2017 (PDF 249KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 28 Ebrill 2017 (PDF 65KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 2 Mai 2017 fersiwn 2 (PDF 111KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 9 Mai 2017 (PDF 161KB)

Grwpio Gwelliannau – 9 Mai 2017 (PDF 69KB)

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y diwygiwyd yn ystod Cyfnod 3 (PDF 531KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ochr dde’r dudalen.)

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF 136KB)

 

Gohebiaeth Weinidogol

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 18 Ebrill 2017 (PDF 249KB)

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 16 Mai 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 537KB)

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y'i pasiwyd (PDF 120KB)

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifenodd y Cyfreithiwr Cyffredinol (PDF 374KB), ar ran y Twrnai Cyffredinol, y Cwnsler Cyffredinol (PDF 178KB) ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF 28KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF 58KB) ar 3 Gorffennaf 2017.

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Claire Morris

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd     CF99 1NA

 

Ebost: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru

 

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau