NDM6115 - Dadl Plaid Cymru

NDM6115 - Dadl Plaid Cymru

NDM6115 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
 
1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.

2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) parhau i fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith; a

b) sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016

Angen Penderfyniad: 12 Hyd 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS