NDM6089 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6089 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM(6089)
Lee Waters (Llanelli)
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Huw Irranca–Davies
(Ogwr)
John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles
gweithgaredddau corfforol.
2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael
yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymhell sydd ei angen arnynt bob
dydd.
3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru)
2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â
chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac
a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.
'Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013'
Cefnogir gan:
David Melding (Canol De Cymru)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016
Angen Penderfyniad: 12 Hyd 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd