NDM6109 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6109 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6109 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirymu'r
fenter 'hawl i brynu'.
2. Yn cydnabod bod 130,000 o deuluoedd wedi cael cyfle i
brynu eu tŷ cyngor eu hunain ers i'r polisi 'hawl i brynu' gael ei
gyflwyno yng Nghymru ym 1980, a bod angen ymddiried ym mhobl Cymru i benderfynu
drostynt eu hunain ynghylch perchnogaeth tai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod 'hawl i
brynu' yn cynnig cyfle gwerthfawr i bobl brynu eu cartrefi eu hunain.
4. Yn credu y dylai'r targed blynyddol ar gyfer adeiladu
tai fod o leiaf 14,000 o dai bob blwyddyn erbyn 2020, yn dilyn argymhellion
Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ei Rhaglen Lywodraethu: 2015 i 2020.
'FMB
Programme for Government: 2015 to 2020' (Saesneg yn unig)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016
Angen Penderfyniad: 5 Hyd 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS