NDM6112 - Dadl Plaid Cymru

NDM6112 - Dadl Plaid Cymru

NDM6112 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pa mor bwysig yw stryd fawr fywiog ac amrywiol er mwyn cefnogi mentrau lleol.

2. Yn gresynu bod nifer y siopau gwag ar ein stryd fawr yn gyson uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn gresynu at golli asedion cymunedol neu wasanaethau lleol o ganlyniad i'r defnydd ysgafn o'r stryd fawr yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru, a rhoi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016

Angen Penderfyniad: 5 Hyd 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS