Masnachfraint Rheilffyrdd a chyflwyno Metro

Masnachfraint Rheilffyrdd a chyflwyno Metro

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a'r cam nesaf yn natblygiad Metro De Cymru.

 

Llun agos o drac rheilffordd sydd wedi rhydu a thrawstiau rheilffordd.

 

Crynodeb

Bydd yr ymchwiliad hwn yn parhau â'r gwaith a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Mae Llywodraeth Cymru am ddyfarnu contract integredig ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf ynghyd â darparu seilwaith Metro De Cymru yn 2017.

 

Y cefndir

Ar hyn o bryd, darperir y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru o dan Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a weithredir gan Trenau Arriva Cymru, a chaiff y cerbydau diesel eu prydlesu gan ddau gwmni cerbydau (Angel Trains a Porterbrook). Dyfarnwyd y contract cyfredol yn 2003 a daw i ben yn 2018. Ar hyn o bryd, mae Trenau Arriva Cymru yn cael cymhorthdal ​​rhwng £150m a £180m y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

 

Ym mis Tachwedd 2014, daeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gytundeb ynghylch datganoli pwerau gweithredol i gaffael masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a fydd yn cychwyn ym mis Hydref 2018.  Bydd datganoli pwerau gweithredol yn golygu mai gan Lywodraeth Cymru y bydd y pŵer i gaffael y fasnachfraint, a hynny o dan fframwaith statudol wedi'i osod gan San Steffan.

 

Er y bydd Metro De Cymru yn rhan o'r cais, caiff cynigion y cwmni eu craffu hefyd o ran sut y byddant yn effeithio ar bob lleoliad daearyddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei huchelgeisiau ar gyfer y Metro, ond cyfrifoldeb y sawl sy'n gwneud cynnig fydd dangos sut y bydd yn gweithredu, yn ogystal â chreu cynlluniau i adeiladu system reilffyrdd neu dramiau newydd.

 

Gan mai Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'n Pwyllgor ni neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad ar y blaenoriaethau ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf a'r Metro, ynghyd â dyfarnu'r contractau, efallai y byddwch hefyd yn dymuno rhannu'ch barn â'r Llywodraeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n fuan ar ei chynlluniau a gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, wedi iddi gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Arolwg

Os ydych chi'n defnyddio’r rheilffyrdd fe hoffem glywed eich barn. Rydym am i chi ddweud wrthym beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddir gennych wrth i ni gasglu tystiolaeth a gwneud argymhellion er mwyn cyfrannu at drafodaethau Llywodraeth Cymru. Rydym am sicrhau bod y contract newydd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ystyried anghenion teithwyr, a bod y contract yn sicrhau gwerth am arian i deithwyr a threthdalwyr. Gellir gweld yr arolwg yma:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/rheilffyrdd-metro

 

Fideo

Cadeirydd y Pwyllgor Russell George AC yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir ar ymchwiliad y Pwyllgor i’r Fasnachfraint Rheilffyrdd a'r Metro. https://www.youtube.com/watch?v=ASjF-KBEt5I

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/09/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau