Masnachfraint Rheilffyrdd a chyflwyno Metro
Masnachfraint Rheilffyrdd a chyflwyno Metro
Bydd Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad i gynlluniau
Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau
a'r cam nesaf yn natblygiad Metro De Cymru.
Crynodeb
Bydd yr ymchwiliad hwn yn parhau â'r
gwaith a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Ddyfodol Masnachfraint
Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Mae Llywodraeth Cymru am ddyfarnu contract
integredig ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf ynghyd â darparu
seilwaith Metro De Cymru yn 2017.
Y cefndir
Ar hyn o bryd, darperir y rhan fwyaf o wasanaethau
rheilffyrdd yng Nghymru o dan Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a
weithredir gan Trenau Arriva Cymru, a chaiff y cerbydau diesel eu prydlesu gan ddau
gwmni cerbydau (Angel Trains a Porterbrook). Dyfarnwyd y contract cyfredol yn
2003 a daw i ben yn 2018. Ar hyn o bryd, mae Trenau Arriva Cymru yn cael
cymhorthdal rhwng £150m a £180m y flwyddyn gan Lywodraeth
Cymru.
Ym mis Tachwedd 2014, daeth Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU i gytundeb ynghylch datganoli pwerau gweithredol i gaffael
masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, a fydd yn cychwyn ym mis
Hydref 2018. Bydd datganoli pwerau
gweithredol yn golygu mai gan Lywodraeth Cymru y bydd y pŵer i gaffael y fasnachfraint, a hynny o dan fframwaith
statudol wedi'i osod gan San Steffan.
Er y bydd Metro De Cymru yn rhan o'r cais, caiff
cynigion y cwmni eu craffu hefyd o ran sut y byddant yn effeithio ar bob
lleoliad daearyddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei huchelgeisiau ar
gyfer y Metro, ond cyfrifoldeb y sawl sy'n gwneud cynnig fydd dangos sut y bydd
yn gweithredu, yn ogystal â chreu cynlluniau i adeiladu system reilffyrdd neu
dramiau newydd.
Gan mai Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'n Pwyllgor
ni neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad ar y
blaenoriaethau ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf a'r Metro, ynghyd â
dyfarnu'r contractau, efallai y byddwch hefyd yn dymuno rhannu'ch barn â'r
Llywodraeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n fuan ar ei chynlluniau a
gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymateb i'r ymgynghoriad
hwnnw, wedi iddi gael ei gyhoeddi ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Arolwg
Os ydych chi'n
defnyddio’r rheilffyrdd fe hoffem glywed eich barn. Rydym am i chi ddweud
wrthym beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng
Nghymru. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddir gennych wrth i ni gasglu
tystiolaeth a gwneud argymhellion er mwyn cyfrannu at drafodaethau Llywodraeth
Cymru. Rydym am sicrhau bod y contract newydd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd
yng Nghymru yn ystyried anghenion teithwyr, a bod y contract yn sicrhau gwerth
am arian i deithwyr a threthdalwyr. Gellir gweld yr arolwg yma:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/rheilffyrdd-metro
Fideo
Cadeirydd y Pwyllgor Russell George AC yn rhoi rhywfaint o wybodaeth
gefndir ar ymchwiliad y Pwyllgor i’r Fasnachfraint Rheilffyrdd a'r Metro. https://www.youtube.com/watch?v=ASjF-KBEt5I
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/09/2016
Dogfennau
- Nodiadau o’r digwyddiad i randdeiliaid, 9 Mawrth 2017 PDF 104 KB Gweld fel HTML (1) 28 KB
- Adroddiad - Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru (PDF 1 MB)
- Deg blaenoriaeth ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a’r gororau (PDF 1.5MB) PDF 1 MB
- * Ymateb Llywodraeth Cymru
Ymgynghoriadau
- Masnachfraint Rheilffyrdd a chyflwyno Metro (Wedi ei gyflawni)