Y cefndir
Yn dilyn y bleidlais i adael yr UE yn y Refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, sefydlwyd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i edrych ar y goblygiadau i Gymru wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd wrth i'r broses o adael fynd rhagddi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Os hoffech inni anfon hwn atoch, e-bostiwch
Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)
Mae’r diweddariad Brexit yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, yr UE, y DU, yr Alban, ac Iwerddon. Gellir gweld y rhifyn diweddaraf yma:
Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd – 4 Tachwedd 2019 (PDF 2MB)
|
Adroddiad monitro ynglŷn a gadael â’r Undeb Ewropeaidd
Mae adroddiad monitro Brexit yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ymadael Llywodraeth y DU â'r UE. Yn y papur hwn ceir crynodeb o’r datblygiadau, y dogfennau a’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Ceir ynddo hefyd ddadansoddiad o’r prif faterion sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor Materion Allanol a chrynodeb o ymateb Llywodraeth Cymru i’r datblygiadau diweddaraf. Gellir gweld yr adroddiad monitro diweddaraf yma:
Adroddiad monitro ynglŷn a gadael â’r Undeb Ewropeaidd – 23 Hydref 2019 (PDF 1MB)
|
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2016
Angen Penderfyniad: Meeting Date Yn ôl Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol