NDM6094 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6094 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod rôl bwysig ysgolion gramadeg o ran hyrwyddo symudedd cymdeithaol a rhoi cyfle i blant o gefndireodd tlawd gael mynediad at addysg o'r radd flaenaf.

2. Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg.
 
3. Yn credu mewn amrywiaeth mewn addysg uwchradd, sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni'n dymuno hynny, ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru i greu system addysgol sy'n rhoi'r cyfle gorau i blant o bob gallu.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016

Angen Penderfyniad: 21 Medi 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Neil Hamilton AS