NDM6095 - Dadl Plaid Cymru
NDM6095 - Dadl Plaid Cymru
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad
Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu 'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un
continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015
yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail
iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn
cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol".
3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn
cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r
cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er
mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r
Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli'r cymhwyster
Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a
fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020;
(b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol
ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd,
cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac
(c) buddsoddi'n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy
becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg
sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
Dogfen Atodol
'Un
iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2016
Angen Penderfyniad: 21 Medi 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Simon Thomas AC