P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd.
P-05-714 Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dr Ashley Wood ar ôl casglu
137 llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gyngor
Caerdydd a Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau i gynnwys gorsaf ar gyfer
Mynachdy a Thal-y-bont fel rhan o unrhyw gynnig ar gyfer Metro Caerdydd.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith a'r deisebydd a chytunodd i:
- gau'r ddeiseb, o
gofio bod yr ardal hon wedi'i chynnwys yn y broses asesu manwl ar gyfer
gorsafoedd newydd posibl; ac wrth wneud hynny
- anfon safbwyntiau'r
deisebydd ar leoliad orsaf at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r
Seilwaith a gofyn iddo ystyried hyn fel rhan o unrhyw drafodaethau yn y
dyfodol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/11/2016
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/09/2016