Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru

Ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyhoeddi eu hadolygiad ar y cyd ym mis Mehefin 2013, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n cadw golwg ar y sefyllfa ers i adroddiad y Pwyllgor gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2013.

 

Mewn gwaith dilynol, cytunodd y Pwyllgor hefyd i edrych ar drefniadau llywodraethu yn gyffredinol ym myrddau iechyd Cymru.

 

Mae adroddiad y Pwyllgor, Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (PDF 803KB) (a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2016), yn cynnwys casgliadau'r Pwyllgor ynglŷn â threfniadau llywodraethu byrddau iechyd, y sefyllfa bresennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r dystiolaeth a gasglodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ynghyd â'i safbwyntiau am y sefyllfa ariannol ym maes iechyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (PDF 869KB) i’r adroddiad ym Mehefin 2016.

 

Yn ei Adroddiad Etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai ei olynydd drafod ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn gynnar yn y Pumed Cynulliad ac y dylai fonitro'r camau a gymerir ynghylch materion perthnasol yn gyson.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2016, gan nodi’r wybodaeth ddiweddaraf a ddaeth i law a’r bwriad i gynnal adolygiad ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a’r Arolygiad Gofal Iechyd yn y gwanwyn yn 2017. Archwiliodd y Pwyllgor y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn ystod yr ymchwiliad i Weithredu Deddf Cyllid GIG (Cymru) 2014.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau