P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth

P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tim Thomas ar ôl casglu 316 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Un o'r prif bryderon ar gyfer pobl sy'n gofalu am bobl ag Awtistiaeth yw'r diffyg dealltwriaeth gan athrawon ac eraill sy'n gweithio yn y proffesiwn addysg.

Tra bod addysgu yng Nghymru o ansawdd uchel, gellid gwneud gwelliannau o ran codi ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, yn enwedig o ystyried pa mor gyffredin mae wedi dod yn y gymdeithas. Cynigir, fel rhan o'r adolygiad hyfforddi athrawon Saesneg, bydd Anghenion Addysgol Arbennig, gan gynnwys Awtistiaeth yn rhan allweddol o hyfforddiant athrawon yn Lloegr. Rhaid i'r adolygiad o

Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru sicrhau bod athrawon yn cael hyfforddiant penodol a statudol o ran cefnogi pobl ag Awtistiaeth fewn amgylchedd yr ysgol.

 

Disgybl ysgol yn ysgrifennu wrth ddesg

Disgybl ysgol

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y deisebydd wedi mynegi boddhad eisoes a'r ffaith na chafwyd unrhyw ymatebion pellach yn ddiweddar. Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/10/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016