P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau ar Faterion Cynllunio yn Rhoi sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Ymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol neu i’r Posibilrwydd y Bydd y Grwpiau a’r Sefydliadau hyn yn Cau
P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau ar Faterion Cynllunio yn Rhoi sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Ymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol neu i’r Posibilrwydd y Bydd y Grwpiau a’r Sefydliadau hyn yn Cau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Mike Walker ar ôl casglu 77 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Mae niferoedd cynyddol o
eglwysi ac adeiladau cymunedol yn cau ac yn cael eu gwerthu ar gyfer
datblygiadau eraill, er gwaethaf y ffaith eu bod yn parhau i gael eu defnyddio
gan grwpiau cymunedol. Yn aml, mae’r gwerthiannau hyn yn amodol ar roi caniatâd
cynllunio ar gyfer addasu neu ddymchwel adeiladau cyn i brynwyr gwblhau
gwerthiannau. Yn anffodus, mae’r broses hon yn aml yn golygu bod grwpiau
cymunedol fel meithrinfeydd a’r Sgowtiaid yn gorfod gadael adeiladau yn ystod y
broses gynllunio. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i newid y gyfraith gynllunio, neu ganllawiau ynghylch y
gyfraith hon, i sicrhau bod pwyllgorau cynllunio yn ystyried yr effaith ar y
gymuned o droi grwpiau cymunedol allan yn ystod y broses o roi caniatâd
cynllunio.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb ar y sail nad yw'r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth sy'n fater digon
arwyddocaol yn ogystal â diffyg cysylltiad â'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/09/2016
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016