P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Roche ar ôl casglu 27 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Un o’r datblygiadau pwysicaf a ddaeth o Gymru erioed oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’n un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr ac mae’n rhaid i ni gadw gafael ynddo. Ar hyn o bryd, rydym mewn sefyllfa anobeithiol lle nad yw mynediad at driniaethau sy’n defnyddio cyffuriau costus sy’n achub bywydau ar gael mewn ffordd deg neu gyfartal ledled Cymru. Mae cleifion sydd ag angen dybryd am gyffuriau i achub eu bywydau yn cael eu hatal gan eu Byrddau Iechyd Lleol rhag cael mynediad at y triniaethau sydd eu hangen arnynt ar gymaint o frys, gan arwain at ganlyniadau difrifol i’w hiechyd a’u disgwyliad oes. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu gweithdrefnau o ran sancsiynu triniaethau costus ar unwaith. Yn ogystal â hyn, galwaf ar Lywodraeth Cymru i asesu anghenion pob claf fesul achos oherwydd bod y gofyniad presennol bod yr holl gyffuriau y gellir eu hariannu yn ymddangos ar restr o ‘Gyffuriau Cymeradwy’ yn rhy gul, ac yn atal cleifion rhag cael mynediad at driniaethau nad ydynt eto ar y rhestr triniaethau y mae meddygon ymgynghorol yn dweud y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd hirdymor a disgwyliad oes cleifion.

 

 

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • cau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb  cysylltiad gyda'r deisebwr; ac wrth wneud hynny
  • aros am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion Unigol  (IPFR), a'i anfon ymlaen at y deisebydd er gwybodaeth. 

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016