Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Inquiry5

 

Mae cryn gyhoeddusrwydd wedi ei roi i bryderon ynglyn â recriwtio a chadw gweithlu'r GIG yng Nghymru, a pha mor gynaliadwy ydyw. Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol blaenorol ymchwiliad i'r gweithlu meddygon teulu yng Nghymru, a nodwyd y gellid cynnal ymchwiliad posibl i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ehangach yn ei Adroddiad Etifeddiaeth a luniwyd ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad.

 

Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor wrthi'n cynnal darn eang o waith cychwynnol i gasglu tystiolaeth i helpu i ddeall y prif faterion sy'n effeithio ar y gweithlu ym mhob rhan o'r sector iechyd a gofal. Bydd hyn yn helpu i lywio ei ddull gweithredu wrth edrych ar faterion sy'n effeithio ar y gweithlu yn ystod y Pumed Cynulliad.

 

Casglu tystiolaeth

Gwahoddodd y Pwyllgor ymatebion ar y pwnc hwn.  Mae’r ymatebion wedi’u cyhoeddi.

 

Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (115KB)

Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gweithlu (686KB)

 

Gwaith cysylltiedig

Ymchwiliad i recriwtio meddygol

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau