Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Amcangyfrif o incwm a gwariant Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyflwyno
ei amcangyfrif blynyddol o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf
i’r Senedd,
fel sy’n ofynnol gan Baragraff 15, Atodlen 1 o Ddeddf
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. O dan Reol
Sefydlog 20.24, rhaid i’r Pwyllgor
Cyllid graffu ar ei amcangyfrif, a gosod adroddiad sy’n cynnwys yr
amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, gerbron y
Senedd yn dilyn ymgynghori ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Gellir gweld yr holl wybodaeth o ran gwaith craffu’r
Pwyllgor Cyllid ar Amcangyfrif Blynyddol o incwm a gwariant Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru isod:
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2016