Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU

Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU

Roedd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r arfer o roi pwerau i Weinidogion Cymru yn uniongyrchol yn Neddfau San Steffan, yn ogystal â materion cysylltiedig fel gweithredu Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddatganoli. Roedd hefyd wedi ystyried yr arfer o ddynodi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i weithredu rhwymedigaethau’r Undeb Ewropeaidd. Yr egwyddor ag oedd yn cael ei ymchwilio oedd a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd cyfrifoldeb llwyr dros ddirprwyo pwerau o’r fath i Weinidogion Cymru.

 

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

  • hyd a lled y gwaith craffu y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud ar hyn o bryd ar y pwerau dirprwyedig a roddir i Weinidogion Cymru drwy ddarpariaethau yn Neddfau’r DU a thrwy fecanweithiau statudol eraill;
  • i ba raddau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu craffu yn gadarn ar brosesau o’r fath drwy ei Reolau Sefydlog;
  • pa mor berthnasol yw Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddatganoli Llywodraeth y DU yng ngoleuni datblygiadau cyfansoddiadol diweddar Cymru;
  • y gweithdrefnau ar gyfer Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol o’u cymharu â'r sefyllfa yn y deddfwrfeydd datganoledig eraill;
  • unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r ymchwiliad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2016

Dogfennau