NDM6050 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6050 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6050 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y rhan y mae llygredd aer yn ei chwarae yng nghanlyniadau iechyd cymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi canfod bod llygredd gronynnol wedi codi wyth y cant yn fyd-eang yn y pum mlynedd diwethaf, gydag arbenigwyr yn y DU yn credu bod tua 29,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â llygredd aer.

 

3. Yn mynegi pryder ynghylch lefel y llygredd aer yng Nghymru, gan nodi mai yng Nghrymlyn, yng Nghaerffili, y mae'r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid wedi'u cofnodi y tu allan i Lundain, a bod tystiolaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriad gan GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn achosion o glefyd anadlol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, i leihau allyriadau llygryddion aer.

 

'World Health Organisation Global Urban Ambient Air Pollution Database'

'Public Health Wales NHS Trust Response to Consultation on 'How do you measure a nation's progress', proposals for the national indicators to measure whether Wales is achieving the seven well-being goals in the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015'

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/06/2016

Prif Aelod: Paul Davies AS