NDM6032 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig
NDM6032 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig
NDM6032 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl y
mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i
gymunedau ledled Cymru.
2. Yn nodi â phryder yr
ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o
ran darparu gwasanaethau effeithiol.
3. Yn cydnabod bod angen
gwneud mwy i fynd i'r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod
nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn
2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r
nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio
awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.
Math o fusnes: Dadl
Statws: Wedi’i gwblhau
Etholaethau affected: Preseli Sir Benfro;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2016
Prif Aelod: Paul Davies AS