NDM6029 - Dadl Plaid Cymru

NDM6029 - Dadl Plaid Cymru

NDM6029 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r heriau i'r gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a

 

b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2016