P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni.
P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sara Jones ar ôl
casglu 22 llofnod. Mae'r ddeiseb wedi casglu 142 o lofnodion
ar wefan e- ddeiseb arall.
Geiriad y ddeiseb
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar
Lywodraeth Cymru i newid yr hen arwyneb concrit ar ffordd yr A40 o Rhaglan i'r
Fenni, am darmac tawel (Whispering Tarmac).
Mae'r Cynllun Gweithredu
ynghylch Sŵn (2013-18) yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i'r ffordd hon,
ar ôl derbyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ar ôl gwneud y mesuriadau. Er
hynny, ni chafwyd unrhyw gynnydd er gwaethaf galwadau parhaus gan drigolion, y
Cynghorydd Sir lleol , yr Aelod Cynulliad a'r Aelod Seneddol.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi
isod, yn nodi y dylid rhoi'r flaenoriaeth gyntaf i'r ffordd hon, o ystyried y
pryderon niferus a godwyd gan y cyhoedd a chynrychiolwyr a'i bod wedi'i nodi o
dan Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn presennol Llywodraeth Cymru.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/11/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2016
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Mynwy
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2016
Dogfennau