P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion
P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Harry Hayfield ar ôl casglu 33 llofnod ar lein
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru atal
treillio am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion a sicrhau bod y dolffiniaid a'r
llamhidyddion sy'n sefydlog yno yn cael eu diogelu yn awr ac yn y dyfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Chytunodd Aelodau
nodi boddhad eang y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb ac i rannu sylwadau
ychwanegol y deisebydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016