P-04-685 - Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru - Mae Angen Model Taliad Rhanbarthol Tecach.
P-04-685 - Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru - Mae Angen Model Taliad Rhanbarthol Tecach.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Farmers for Regional Payments ar ôl casglu 139 llofnod ar lein
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i osod model cyfradd
wastad ar gyfer talu cymhorthdal Cynllun y Taliad Sylfaenol i ffermwyr Cymru.
Grant yr Undeb Ewropeaidd i helpu'r diwydiant ffermio yw Cynllun y Taliad
Sengl. Gall ffermwyr wneud cais am y grant unwaith y flwyddyn - ym mis Mai fel
arfer - ac mae'r taliadau'n cychwyn ym mis Rhagfyr.
Ym mis Gorffennaf 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad i ddechrau
talu ar gyfradd wastad fesul hectar i holl ffermwyr Cymru o dan Gynllun y
Taliad Sylfaenol.
O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, amcangyfrifir y bydd 1,323 o ffermydd yn
colli mwy na €2,500, a bydd taliadau llawer ohonynt yn gostwng tua 40-60% dros
gyfnod o bum mlynedd. Bydd y taliadau a gollir yn dod i €100,000 fesul fferm,
bob blwyddyn o nawr tan 2019.
Bydd y model taliad cyfradd wastad i holl ffermwyr Cymru yn arwain at
ddiweithdra a methiant busnesau. Bydd hyn hefyd yn cael effaith niweidiol ar yr
amgylchedd ac ar ansawdd a maint cynnyrch bwyd o Gymru, oherwydd y bydd yr
effaith waethaf ar ffermydd cynhyrchiol.
Ceir gwahaniaethau sylweddol yng nghynhyrchiant tir ffermio yng Nghymru.
Felly, mae'n hollbwysig bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei droi'n
rhanbarthol. Bydd y penderfyniad hefyd yn rhoi ffermwyr cynhyrchiol yng Nghymru
o dan anfantais o'i gymharu â ffermwyr cyfatebol mewn gwledydd eraill; er
enghraifft, mae ffermwyr yn Lloegr yn derbyn taliadau Cynllun y Taliad
Sylfaenol ar sail ranbarthol.
Mae'n amlwg er budd gorau'r gymuned ffermio a Chymru'n ehangach i sicrhau
bod cynllun taliad tecach ar waith.
Math o fusnes:
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016