NDM6021 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig

NDM6021 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig

NDM6021  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth yr Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.


2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth ei chwarae o ran hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.

 

3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu'n ordew.

 

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cymhwyso ac wedi cymryd rhan yn rowndiau terfynol Euro 2016 i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.

Math o fusnes: Dadl

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2016