Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau eraill (Gan gynnwys y weithdrefn "gwneud cadarnhaol") - Y Bumed Senedd

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau eraill (Gan gynnwys y weithdrefn "gwneud cadarnhaol") - Y Bumed Senedd

Rôl Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yw ystyried a chyflwyno adroddiad ar is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd.

 

Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth yn destun gweithdrefnau penodol a amlinellir yn y ddeddf alluogi. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cynnwys:

 

(i) gweithdrefnau uwchgadarnhaol, er enghraifft y drefn a nodir yn adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011;

 

(ii) y weithdrefn gadarnhaol dros dro neu'r weithdrefn gwneud cadarnhaol er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adrannau 25(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a

 

(iii) y weithdrefn drafft negyddol, er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adrannau 144ZF(5) i (7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2016

Dogfennau