P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru
P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael John Powell ar ôl
casglu 186 Llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth
Cymru roi i bobl ac etholwyr Cymru yr un hawliau i recordio cyfarfodydd Llywodraeth
Leol ag sydd gan eu cymheiriaid yn Lloegr.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae’r darpariaethau manwl wedi’u cynnwys yn yr
is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 2000, sef Rheoliadau Awdurdodau Lleol
(Trefniadau Gweithredol) (Cyfarfodydd a Mynediad at Wybodaeth) (Lloegr) 2012.
Deddfwyd y rheoliadau ym mis Medi 2012, a chawsant eu cyhoeddi ar wefan yr
Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Pontypridd
·
Canol De Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cadarnhad a dderbyniwyd oddi
wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ei fwriad i wneud
darlledu cyfarfodydd Cynghorau yn ofyniad statudol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/03/2016