P-04-679 Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
P-04-679 Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jago Lewis ar ôl casglu 378
Llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Ar adeg pan ddywedir wrth bobl ifanc bod yn rhaid iddynt
ragori mewn pynciau cwricwlwm craidd fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth,
mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd amser y gellid ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar
y meysydd hyn. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster dibwrpas nad yw o unrhyw
ddiben gwirioneddol i ddyfodol myfyriwr.
Gallai'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru gael ei ddileu'n hawdd neu ei
ddisodli gan gwrs dinasyddiaeth. Gallai dileu Bagloriaeth Cymru hefyd helpu i
wella graddau gan y byddai'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gyrsiau TGAU a
Safon Uwch gwirioneddol, a byddai'n tynnu'r pwysau ychwanegol oddi ar fyfyrwyr.
Dosbarth
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/06/2017
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan nad oedd modd
gweld sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd, ac o
ystyried ymrwymiad pendant i Fagloriaeth Cymru a nodwyd yn flaenorol gan
Lywodraeth Cymru.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 23/02/2016.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/02/2016