P-04-679 Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

P-04-679 Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jago Lewis ar ôl casglu 378 Llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Ar adeg pan ddywedir wrth bobl ifanc bod yn rhaid iddynt ragori mewn pynciau cwricwlwm craidd fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd amser y gellid ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar y meysydd hyn. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster dibwrpas nad yw o unrhyw ddiben gwirioneddol i ddyfodol myfyriwr.  Gallai'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru gael ei ddileu'n hawdd neu ei ddisodli gan gwrs dinasyddiaeth. Gallai dileu Bagloriaeth Cymru hefyd helpu i wella graddau gan y byddai'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gyrsiau TGAU a Safon Uwch gwirioneddol, a byddai'n tynnu'r pwysau ychwanegol oddi ar fyfyrwyr.

 

Dosbarth

Dosbarth

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/06/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan nad oedd modd gweld sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd, ac o ystyried ymrwymiad pendant i Fagloriaeth Cymru a nodwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/02/2016.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Islwyn
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/02/2016