P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru
P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon
gan Cynghorydd Sion Jones ar ôl casglu 10 Llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Cyflwynaf y ddeiseb hon i chi
fel pwynt cychwyn ar yr ymgyrch i greu Pencampwr yr Iaith Gymraeg drwy ein cymunedau
yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn un wirfoddol o fewn y gymuned, a bydd y
pencampwr yn cael ei benodi i hyrwyddo defnydd o'r Iaith Gymraeg yng Nghymru, a
chefnogi datblygiadau o fewn ei chymunedau.
Bydd y Pencampwr yn arwain
materion gyda'r iaith, yn cynnwys rôl o fewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, rôl
o fewn Cynghorau Plwyf a Thref, a chyswllt agos gyda Chynghorwyr Sir a'r Cyngor
Sir.
Bydd y Pencampwr yn cael
cymorth gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg i weithredu'r rôl, ac i sicrhau bod
cymunedau yng Nghymru yn cyd-fynd â pholisïau lleol a Chymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r deisebydd a chytunodd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei gyfraniad.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu'r cynnig a wnaed gan y
deisebydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu pencampwyr iaith cymunedol gyda
Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Arfon
·
Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2016