P-04-673 Galw ar bob Plaid Wleidyddol Gymreig i Gynnig Popeth yn Ddwyieithog

P-04-673 Galw ar bob Plaid Wleidyddol Gymreig i Gynnig Popeth yn Ddwyieithog

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aaron Davies, ar ôl casglu 48 llofnod.

 

Geiriad y deiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu y dylai pob plaid wleidyddol a'u hymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad (cyffredinol/cenedlaethol/lleol) gynnig popeth yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Mae hyn yn golygu taflenni, cylchlythyrau, gwefannau (ac ati) ymgeiswyr unigol, grwpiau'r blaid a'r brif blaid.

 

Mae rhai pleidiau gwleidyddol eisoes yn cynnig y gwasanaeth hwn. Mae rhai ymgeiswyr hefyd yn cynnig y gwasanaeth hwn, ond nid pawb.

 

Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg yr un hawliau i gael gwybodaeth â'r rhai nad ydynt yn siarad.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

 

·         Cynulliad Etholaeth: Aberconwy

 

·         Cynulliad Rhanbarth: Gogledd Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/02/2016