P-04-675 Talwch Gost y Dreth Ystafell Wely yng Nghymru

P-04-675 Talwch Gost y Dreth Ystafell Wely yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jamie Insole ar ôl casglu 193 Llofnod.

Geiriad y ddeiseb

Yn dilyn argymhelliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol ei hun, mae'r corff Caerdydd a De Cymru yn erbyn y Dreth Ystafell Wely, Shelter Cymru, Tenantiaid Cymru, TPAS a'r Eglwys yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu'r arian angenrheidiol i dalu cost y dreth ystafell wely yng Nghymru fel sydd wedi'i gyflawni yn yr Alban.

Mae Caerdydd a De Cymru yn Erbyn y Dreth Ystafell Wely (C & SWABT) yn ymgyrch ar lawr gwlad a gaiff ei harwain gan denantiaid, sydd wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn y 'dreth ystafell wely'.

Mae ein profiad yn dangos bod baich ariannol y dreth ystafell wely yn parhau i effeithio'n bennaf ar bobl sy'n glaf, yn anabl a'r bobl sy'n fwyaf bregus yn ariannol yn ein cymunedau. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 33,000 o aelwydydd yn wynebu dewis amhosibl o ddod o hyd i arian ychwanegol nad oes ganddynt, neu symud i gartrefi llai nad ydynt yn bodoli.

Yn ystod 2013 a 2014, rhoddwyd 5136 o orchmynion meddiannu ataliedig i denantiaid cymdeithasol yng Nghymru. Gall toriadau dramatig mewn taliadau tai dewisol, ynghyd â'r pwysau yn sgîl rhagor o ddiwygio lles arwain at gynnydd pellach yn nifer y bobl sy'n wynebu dyledion a bygythiadau troi allan anorchfygol.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau cyllidebol a berir gan danariannu llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, yn ein barn ni, cost peidio ag ymyrryd fydd troi miloedd o bobl o'u cartrefi a gwenwyno di-droi'n-ôl yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario canran is o'i gwariant ar dai na'r Alban na Gogledd Iwerddon. Mae'n hanfodol bod y gyllideb tai yn cael ei chynyddu, fel nad yw tâl atodol y taliadau tai dewisol yn dod ar draul gwasanaethau tai hanfodol eraill. Yn yr Alban, nid oes yr un tenant yn talu'r Dreth Ystafell Wely. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos yr un arweinyddiaeth, i weithredu ar argymhelliad y Pwyllgor ac i ddileu tlodi a diflastod i ddegau o filoedd o denantiaid Cymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Ar 24 Gorffennaf, argymhellodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol ei hun y dylid cynnal dadansoddiad cost / budd lliniaru effaith lawn cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr drwy daliadau tai dewisol, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn dewis ei wneud.

Ar ôl y cyhoeddiad hwn, galwodd clymblaid o asiantaethau yn y sector,  ac unigolion uchel eu proffil, gan gynnwys Archesgob Cymru a Tenant Participation ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i'r arian i dynnu'r tâl hwn oddi ar denantiaid.

 

Mae Caerdydd a De Cymru yn Erbyn y Dreth Ystafell Wely eisoes wedi gweithio gyda'i bartneriaid, awdurdodau lleol yng Nghymru ac arweinwyr yn y sector i ymgorffori arfer gorau a thynnu'r dreth ystafell wely oddi ar gannoedd o bobl; naill ai drwy eithriadau yn y gyfraith neu drwy apeliadau tribiwnlys.

Mae'r ymgyrch hefyd wedi llwyddo i atal dros 30 achos o droi pobl allan o'u cartrefi.

Fodd bynnag, mewn oes o doriadau cynyddol o ran cyllid canolog a'u heffaith ar wasanaethau cefnogi, ein barn bendant ni yw nad yw'r cyfyngder presennol yn gynaliadwy.

Mae’r amcangyfrifon gorau’n awgrymu na fyddai cyfanswm y gost i Lywodraeth Cymru yn fwy na £17 miliwn.

Mae bellach yn amser i weithredu!

 

 Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·        Gorllewin Abertawe

·        Gorllewin De Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/02/2016